Saving ‘the lives and limbs of many’: At sea with sixteenth and seventeenth century ships’ surgeons.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ar gyfer darlith fis Rhagfyr, rydyn ni’n falch iawn o allu croesawu Dr Jasmine Kilburn-Toppin (Prifysgol Caerdydd), i gyflwyno ar y thema: Saving ‘the lives and limbs of many’: At sea with sixteenth and seventeenth century ships’ surgeons.
Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod profiadau ac arferion meddygol diddorol llawfeddygon ar longau masnach a’r Llynges Brydeinig o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg. Mae hanesion a ysgrifennwyd ac a argraffwyd gan lawfeddygon y môr yn cynnig cipolwg unigryw i agweddau meddygol, cymdeithasol ac emosiynol ar fywyd ar y môr, a’r hyn yr oedd gwybodaeth lawfeddygol yn ei olygu yn y byd modern cynnar.