Cyfres Weminarau Caerdydd-Japan: Toby Slade - "Kawaii": Estheteg Ciwt yn Japan
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Toby Slade, Athro Cyswllt yr Ysgol Dylunio, Cyfadran Dylunio, Pensaernïaeth ac Adeiladu, Prifysgol Technoleg Sydney
Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Toby Slade i 18fed Ddarlith Caerdydd-Japan! Mae Toby, ymchwilydd adnabyddus o Imagining Fashion Futures Lab, Prifysgol Technoleg Sydney, yn arbenigwr mewn ffasiwn a diwylliant poblogaidd Japan. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Toby yn trafod arwyddocâd hanesyddol a chymdeithasol-ddiwylliannol estheteg "kawaii" (ciwt) Japan, yn ogystal â'i rôl fel ffurf unigryw o fynegiant cymdeithasol a gwrthwynebiad cynnil.
Croeso cynnes i bawb
Mae Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Japan yn ceisio cyfleu safbwyntiau cyfoes a meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr am wahanol gyd-destunau diwylliannol cymdeithas Japan. Byddwn ni’n trin a thrafod agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar iaith a diwylliant Japan ar gyfer dysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan. Ariennir y digwyddiad gan Sefydliad Japan, Llundain. Mae recordiadau o Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Japan ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube.
Crynodeb
Daeth yr arddull kawaii (ciwt) modern yn Japan i'r amlwg yn gynnar yn y 1970au, yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol a siom ar ôl i ymdrechion treisgar dros newid cymdeithasol fethu. Mae'r cyfnod hwn, a elwir yn shirake neu "dawelwch dadrithiedig," wedi arwain pobl i fynegi ei hunain yn gymdeithasol mewn ffyrdd newydd gan gynnwys y mudiad kawaii, a oedd yn cynnig ffurf eironig o wrthsefyll. Mae gan bwyslais kawaii ar ddiniweidrwydd, pwyll, a ffocws sylw cyfyngedig oblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol.
Yn seicolegol, mae kawaii yn annog emosiynau positif ac agwedd hawdd mynd ato, sy'n cyd-fynd yn dda â chymdeithas strwythuredig Japan. Yn ogystal, mae agweddau neoteni a phedomorffedd mewn ffasiwn kawaii yn cael eu hystyried yn strategaethau cymdeithasol amgen sy'n herio safonau confensiynol yn gynnil.
Roedd yr arddull "llawysgrifen giwt", a ddylanwadwyd gan sgriptiau tramor, yn caniatáu i bobl ifanc fynegi eu hunain wrth leihau difrifoldeb iaith a diwylliant Japan. Trwy fabwysiadu estheteg kawaii, roedd pobol ifanc yn gwrthryfela'n gynnil yn erbyn strwythurau patriarchaidd, gan herio difrifoldeb a hierarchaeth cymdeithas Japan. Mae brandiau megis Pink House, a sefydlodd cyn-chwyldroadwyr, yn enghraifft o sut ddatblygodd ffasiwn kawaii yn fynegiant gwleidyddol symbolaidd amlwg o ddiwylliant cyfoes Japan.
Bywgraffiad
Mae Toby yn ymchwilydd ffasiwn yn Imagining Fashion Futures Lab ym Mhrifysgol Technoleg Sydney ac yn arbenigwr ar ffasiwn a diwylliant poblogaidd Japan. Mae ei ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar hanes, ffurfiau cyfoes ac ystyr newidiol o foethusrwydd yn Japan, gan ddatgelu newidiadau mewn sut mae pobl wedi prynu a defnyddio ffasiwn yn hanesyddol.
Ymunodd Toby â Phrifysgol Technoleg Sydney ar ôl mwy nag 16 mlynedd ym Mhrifysgol Tokyo a Phrifysgol Bunka Gakeun yn Japan. Mae wedi ysgrifennu dau lyfr: Japanese Fashion: A Cultural History (Berg, 2009) oedd y llyfr Saesneg cyntaf i drin a thrafod holl hanes ffasiwn a dillad yn Japan, gyda phwyslais arbennig ar fodernrwydd dillad Japaneaidd a'i oblygiadau i ddamcaniaethau ffasiwn cyfoes. Cadarnhaodd y gwaith hwn enw da Toby fel arbenigwr ar hanes ffasiwn Japan. Mae ei ail lyfr, Introducing Japanese Popular Culture (Routledge, 2018), yn edrych ar ffasiwn yn elfen allweddol o ddiwylliant poblogaidd. https://www.tobyslade.net/