Mecanwaith Cyngor Gwyddonol Ewrop: sut mae llunio polisïau ar sail tystiolaeth yn gweithio mewn Undeb sy’n cynnwys 27 o daleithiau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae’r Mecanwaith Cyngor Gwyddonol (SAM) yn darparu tystiolaeth wyddonol annibynnol ac argymhellion ynghylch polisïau i Goleg Comisiynwyr Ewrop, a hynny ar ystod o faterion sy’n ymwneud â pholisi.
Ond sut mae'r broses o lunio polisïau yn Ewrop yn gweithio? Ym mha ffordd y mae’n cael ei llywio gan dystiolaeth wyddonol? Sut gall sefydliadau, ymchwilwyr a staff proffesiynol (gan gynnwys o Wledydd Cysylltiol, megis y DU) ymwneud â SAM?
Ymunwch â’r weminar ryngweithiol hon, sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Caiff y weminar hon ei chynnal gan Rwydwaith y Prifysgolion ar gyfer Ymgysylltu â Pholisi (UPEN), ar y cyd â Rhwydwaith Datblygu Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol ac Academia Europaea Caerdydd (partner yn y SAM).
Un mewn cyfres o weminarau ar y thema ymgysylltu â pholisi rhyngwladol yw hon, ac fe gaiff ei threfnu gan Is-bwyllgor Rhyngwladol UPEN.
Mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau i'r panel, naill ai cyn y weminar drwy e-bostio AECardiffHub@caerdydd.ac.uk neu yn ystod y weminar.
Y Rhaglen a’r siaradwyr
- Gair o groeso gan Academia Europaea, Yr Athro Ole Petersen CBE MAE ML FRS, Cyfarwyddwr, Academia Europaea Caerdydd
- Gair o groeso gan UPEN
- Sut mae llunio polisïau yn Ewrop yn gweithio, a rôl y SAM, Dr Karen Fabbri, Dirprwy Bennaeth yr Uned, Polisi Gwyddoniaeth, Cyngor a Moeseg, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd
- Sut mae'r broses o adolygu’r dystiolaeth yn gweithio, a’r rôl y mae SAPEA yn ei chwarae, Toby Wardman, Pennaeth Cyfathrebu (SAPEA) a Louise Edwards (SAPEA)
- Barn cyfrannwr arbenigol, yr Athro Richard Thompson OBE FRS, Cyfarwyddwr y Sefydliad Morol, Prifysgol Plymouth; Yr Athro Pearl Dykstra MAE, Prifysgol Erasmus Rotterdam