Gwleidyddiaeth 'Co-Opposition'
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Roedd John Osmond yn Gynghorydd Arbennig i arweinydd Plaid Cymru ar y pryd yn 2021 ac yng nghanol y trafodaethau a arweiniodd at gytundeb unigryw yng ngwleidyddiaeth Prydain a ysbrydolwyd gan gynseiliau di-glymblaid yn Sweden, Seland Newydd a Malaysia ac a adwaenir gan wyddonwyr gwleidyddol fel 'Contract Parliamentarism'.
Parhaodd y Cytundeb Cydweithredu a lofnodwyd gan Mark Drakeford ac Adam Price tan ganol 2024 a chyflawnodd bolisïau i’r ddwy blaid megis Diwygio’r Senedd a chiniaw ysgol am ddim ond nid oedd heb densiynau y tu mewn i’r ddwy blaid a’r Senedd ei hun.
Mae John wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar am ei brofiadau o fewn Plaid Cymru sy’n manylu ar y dylanwadau personol a gwleidyddol ar y cytundeb ac yn edrych ar ei effaith ar wleidyddiaeth Cymru.
Mae’n bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru gynnal y drafodaeth hon rhwng yr Athro Richard Wyn Jones a John Osmond fel rhan o’n hymrwymiad i ledaenu gwybodaeth a llywio trafodaeth gyhoeddus am wleidyddiaeth Cymru.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA