Deall Tsieina’n Well: Gwahaniaethau rhwng Gogledd a De Tsieina
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae “Un o ble ydych chi?” nid yn unig yn gwestiwn athronyddol, ond mae hefyd yn gwestiwn y mae pobl Tsieina yn aml yn ei ofyn pan fyddan nhw’n cwrdd am y tro cyntaf. Mae'r lle y cawsoch chi eich magu a'ch tref enedigol yn cynrychioli'r bwyd, yr iaith, y tywydd a'r traddodiadau sy'n llywio'ch barn am y byd yn uniongyrchol. Mae Tsieina yn wlad fawr ac mae llawer o wahaniaethau rhwng ei rhanbarthau. Yn ddiwylliannol, rydyn ni’n aml yn ei chyffredinoli drwy gyfeirio at y de a’r gogledd. Gall rhai o'r gwahaniaethau hyn fod yn stereoteipiau, ond maen nhw hefyd wedi dod yn synnwyr cyffredin ac mae pobl wrth eu boddau yn gwneud jôcs yn seiliedig ar hyn. Yn y ddarlith hon, byddwch chi’n cael gwybod am rai gwahaniaethau rhwng de a gogledd Tsieina, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o Tsieina ac yn gwneud i chi wenu pan glywch chi jôcs rhanbarthol pobl Tsieina.
|
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS