Cyflwyniadau Agoriadol Kapila Hingorani
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae cyflwyniadau Kapila Hingorani yn dathlu cysylltiad Pushpa Kapila Hingorani â Chaerdydd. (BA 1951, Anrh 1998)
Cafodd Pushpa Kapila Hingorani ei geni yn Kenya. Astudiodd hi Saesneg, Economeg a Hanes yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Dde Asia i raddio o’r sefydliad. Aeth hi ati i ddilyn gyrfa gyfreithiol lwyddiannus yn India.
Ymunwch â ni am drafodaeth rhwng yr Athro Gwadd Cyfiawnder o Leverhulme, Joel Ngugi a Dr Aman Hingorani, ar y thema systemau cyfiawnder amgen. Bydd yr Athro Wendy Larner, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerdydd yn arwain y digwyddiad ar y noson.
Cafodd yr Athro Gwadd Cyfiawnder Joel Ngugi o Leverhulme, ei benodi’n Farnwr Llys Apêl Kenya yn 2022. Yn arloeswr ar ddulliau’r trydydd byd wrth ymwneud â Chyfraith Ryngwladol, mae ganddo Ddoethur mewn Gwyddor Gyfreithyddol o Brifysgol Harvard.
Mae Dr. Aman Hingorani yn Uwch Eiriolwr a Chyfryngwr, Y Goruchaf Lys India, a hyfforddwr rhyngwladol ar sgiliau eiriolaeth a chyfryngu. Mae Dr. Hingorani wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol am ei waith ar Kashmir
Mae croeso i chi ymuno â ni ar gyfer y derbyniad diodydd yn dilyn y digwyddiad.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT