Llunio dyfodol cynaliadwy gyda’n gilydd: Yr adroddiad lefel uchel ar ddyfodol y Polisi Cydlyniant a'i oblygiadau i'r DU.
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd yr Athro Andrés Rodríguez-Pose yn rhoi cyflwyniad ar bolisi Cydlyniant newydd yr UE a’i oblygiadau i’r DU. Prif offeryn ymrwymiad yr UE i rannu ffyniant yw’r Polisi Cydlyniant. Mae adroddiad newydd yn eirioli dros lunio’r polisi ar ei newydd wedd i fynd i'r afael â heriau strwythurol yn y byd sydd ohoni. Mae'n pwysleisio'r angen am Bolisi Cydlyniant sy’n cydnabod yr angen am gyfuno ysbryd cystadleuol a chynwysoldeb, i gyd tra'n cadw ei ffocws ar gydlyniant economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol. Bydd Andrés yn rhannu prif canfyddiadau’r adroddiad, ac yn trafod goblygiadau’r adroddiad hwnnw i’r ddadl codi’r gwastad a pholisi’r DU
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA