Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Brenhinol Athroniaeth Darlith Flynyddol Caerdydd 2024

Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2024
Calendar 20:30-22:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Photo of Professor Kristie Dotson

Tawel Fel Ei Gadw: Ar Eiddilwch Epistemig

Yr Athro Kristie Dotson (Prifysgol Michigan — Ann Arbor)

Yn y papur hwn, rwy'n trin a thrafod y syniad o eiddilwch epistemig yn ein bywydau gwleidyddol. Mae eiddilwch epistemig, yn fy nghyfrif i, yn cyfeirio at ddod yn geidwadol iawn yn ein dealltwriaeth o'n bydoedd, a hynny oherwydd gwersi rydyn ni’n eu dysgu o fywyd. Mae’n cyfeirio at fath o freuder o ran y ffordd rydyn ni’n gweld ein bydoedd, sydd nid yn unig yn ganlyniad o derfynedigrwydd; ond y mae hefyd yn ganlyniad i'r hyn a elwir yn “ddysgu o brofiad.” I fod yn glir, mae eiddilwch epistemig yn achos anochel o fregusrwydd mewn perthynas â gwybodaeth i fodau fel ni.

Yn y cyflwyniad hwn, bydda i’n trin a thrafod achos o eiddilwch epistemig trwy adrodd straeon amdano mewn pedair cwmpasran. Yn gyntaf, yn ôl cyfeiriadedd gwleidyddol. Yn ail, gan ddefnyddio enghraifft fanwl. Yn drydydd, wrth ddatblygu theori. Ac, yn bedwerydd, gan fyfyrio’n haniaethol. Rwy'n adrodd y straeon hyn am eiddilwch epistemig er mwyn esbonio fy mhrif honiad: mae angen celfyddydau athronyddol newydd a gwell arnon ni i fynd i’r afael â'r sawl ffordd y gall ein eiddilwch epistemig ein hannog ni i dystio yn ein herbyn ni’n hunain.

Mae'r Athro Kristie Dotson yn Athro Amrywiaeth a Thrawsnewid Cymdeithasol Prifysgol mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Afroamericanaidd ac Affricanaidd ym Mhrifysgol Michigan — Ann Arbor. Mae hi'n arbenigo mewn epistemoleg, metaphilosoffeg, ac athroniaeth ffeministaidd (yn enwedig menywod o liw a ffeministaethau du).

Mae ei gwaith yn canolbwyntio'n bennaf ar drin a thrafod sut mae gwybodaeth yn chwarae rôl wrth gynnal a chuddio gormes. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion athroniaeth blaenllaw ar agweddau epistemig cysylltiadau pŵer, heriau cynwysoldeb ac amrywiaeth wrth gynhyrchu gwybodaeth, a natur athroniaeth fel disgyblaeth.

Rhannwch y digwyddiad hwn