Taith Hanes Menywod - Iaith Saesneg
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Parc Cathays yn gartref i brif Gampws y Brifysgol, yn ogystal â Neuadd y Ddinas, adeiladau’r Llywodraeth a’r Amgueddfa – ardal sy’n gysylltiedig â dynion pwerus hanes y brifddinas.
Ond edrychwch yn ofalus, a mi welwch bod hanes menywod ym mhobman, yn ffabrig ein gofodau dinesig. O ymgyrchwragedd i gerddorion, swffragetiaid i wyddonwragedd - mae'r daith hon yn rhoi cip i chi ar hanes menywod Caerdydd.
Mae hon yn daith heb risiau, sy'n para tua 60 munud wrth gerdded yn hamddenol.
Man cychwyn y daith fydd tu allan i fynedfa Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, ar ochr Park Place. Mi fyddwn ni'n gadael y llwybr am gyfnod byr, felly dewch mewn esgidiau addas.
Iaith y daith fydd Saesneg.
Parc y Plas
Caerdydd
Caerdydd
CF10 3AT