Deallusrwydd artiffisial: beth mae’n ei olygu i ymchwil, i gymdeithas ac i chi?
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) ac yn enwedig AI cynhyrchiol wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar. Mae’n ymddangos bod AI yn cynnig cyfleoedd helaeth i ni, tra bod rhai yn rhybuddio bod yna hefyd anfanteision sylweddol.
Ond beth yn union yw AI, a sut y gallai effeithio arnon ni yn ein gwaith a’n bywydau bob dydd?
Ymunwch â ni am drafodaeth fywiog a gonest gydag arbenigwyr blaenllaw o Ewrop a fydd yn trin a thrafod y materion mawr sydd ynghlwm ag AI.
Bydd croeso i bawb sy’n chwilfrydig am AI ac sydd am ddysgu rhagor. Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb, yn rhad ac am ddim, a byddwch chi’n cael cinio a chyfleoedd i rwydweithio.
Rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth poster a fideo hefyd, sydd â gwobr ariannol; cewch chi ragor o fanylion maes o law.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Connects-UK, sef partneriaeth i feithrin gweithio ar y cyd gwyddonol rhwng Ewrop a’r DU, a’i gefnogi gan Academia Europaea Caerdydd, sy’n rhan o academi ledled Ewrop sy’n hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil a gwyddoniaeth ym maes polisi.
Mae cymorthdaliadau teithio ar gael i’r rhai sy’n bresennol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@connects-uk.org
Rhaglen
Mae’r rhaglen yn cael ei chreu ar hyn o bryd a gallai gael ei newid. Ewch i wefan Connects UK i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
12.00 Cinio am ddim i rwydweithio
13.15 Croeso a Gwybodaeth Gyffredinol
- Yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr, Academia Europaea Caerdydd
- Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Llywodraeth Cymru
- Alvaro Garcia-Delgado, Dirprwyaeth yr UE i’r DU
13.30 Prif Araith: Beth yw AI, pam nawr, a sut olwg fydd ar AI yn y dyfodol?
14.00 Panel 1: Beth fydd effaith AI ar gymdeithas?
- Cecilia Rikap, Pennaeth Ymchwil ac Athro Cyswllt mewn Economeg, UCL
- Gemma Newlands, Darlithydd Ymchwil Adrannol mewn AI a Gwaith, Sefydliad Rhyngrwyd Rhydychen, Sefydliad Arloesedd a Phwrpas Cyhoeddus Prifysgol Rhydychen (IIPP)
14.50 Egwyl am goffi
15.10 Panel 2: Sut bydd AI yn effeithio ar faes ymchwil?
- Yr Athro Ole Petersen, Cyfarwyddwr, Academia Europaea Caerdydd, Cadeirydd
16.00 Cyhoeddi enillwyr y gwobrau
16.15 Gorffen
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ