Dull cydweithredol i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau yng Nghymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Students ready for working day](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2872260/Students-ready-for-working-day-2024-10-14-10-55-19.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Fel prifysgol fwyaf Cymru, rydyn ni’n cefnogi adferiad sydd wedi’i arwain gan sgiliau, yn dilyn COVID-19.
Rydyn ni’n cydweithio â sefydliadau i fynd i'r afael â'u gofynion o ran sgiliau, gan ddatblygu atebion sy'n rhoi’r sgiliau i’r gweithle fodloni gofynion sy’n esblygu ar gyfer amrywiaeth o sectorau a diwydiannau.
Dyma rai o’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau;
- Cynnig myfyrwyr a graddedigion dawnus sy'n meddu ar safbwyntiau a sgiliau newydd ac arbenigedd cyfredol yn eu meysydd priodol.
- Rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus wedi'u teilwra (DPP) sy'n mynd i'r afael â bylchau sgiliau penodol ac anghenion y diwydiant.
- Cydweithio ar brosiectau a mentrau sy'n dylanwadu ar ein harbenigedd academaidd a'n cyfleusterau ymchwil i gael ateb ac i wella sgiliau’r gweithlu.
Byddwn ni’n cynnal sesiwn addysgiadol a difyr ar 19 Tachwedd, a fydd yn dod â sefydliadau ynghyd i rwydweithio ac i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn.
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ