Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Dim ots a ydych chi am wneud ymchwil sy’n arwain y byd, dysgu gan addysgwyr rhagorol neu wella eich rhagolygon o weithio yn eich dewis broffesiwn, dewch i weld pam mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y prifysgolion gorau yn y DU ar gyfer addysg ôl-raddedig.
- Dewch i gwrdd â’n hacademyddion
- Holwch am yr ysgoloriaethau a’r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys ein hysgoloriaethau meistr gwerth £3,000
- Ewch ar daith o amgylch y campws gyda myfyriwr sy’n astudio yma ar hyn o bryd
- Sgwrsiwch â’r myfyrwyr
- Mynnwch gyngor gan ein timau cefnogi myfyrwyr
- Ymwelwch â’n lolfa PhD arbennig
Os ydych chi eisiau rhoi hwb i'ch rhagolygon ar ôl graddio, newid cyfeiriad i ddilyn llwybr gyrfaol newydd neu sicrhau eich bod yn rhagori ar y gystadleuaeth, gallai gradd ôl-raddedig eich helpu i gyflawni eich nod.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB