Brechlynnau yn erbyn y pâs: canrif o wyddoniaeth dda a drwg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gan mlynedd yn ôl, roedd mwy nag un ym mhob cant o blant a aned yn Ewrop yn marw o ganlyniad i’r pas. Wyth deg mlynedd yn ôl, yn Grand Rapids, Michigan, datblygodd dwy fenyw y brechlyn a roddodd ddiwedd arno. Roedd gofyn am lu o weithwyr gofal iechyd gwirfoddol a thechnegwyr labordy, gyda chefnogaeth rhoddion gan fusnesau lleol, a blynyddoedd o weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau. Hanner can mlynedd yn ôl, daeth brechlyn y pas yn ganolbwynt ton o banig, a helpodd i sefydlu’r mudiad gwrth-frechu modern.
Mae stori brechlyn y pas yn un am wyddoniaeth ragorol, gwyddoniaeth wael a chyfyngiadau gwyddoniaeth o'i chymhwyso at unrhyw beth sydd mor gymhleth â bodau dynol.