Beth allwn ni ei ddysgu o glefydau prin?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![SiH public lecture series logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2870576/SiH-public-lecture-2024-10-7-14-45-9.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd Dr Elaine Dunlop, Ysgol Meddygaeth yn cyflwyno'r sgwrs gyntaf yn y gyfres Darlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth mewn Iechyd (ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru)
Mae rhai cyflyrau meddygol yn cael eu hystyried yn rhai 'prin' ac yn gallu cael eu diystyru i raddau helaeth gan y proffesiynau meddygol a gwyddonol. Er hynny, bydd clefyd prin yn effeithio ar 1 ym mhob 17 o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau. Nid oes dealltwriaeth lawn gennyn ni o’r namau cellol sy’n arwain at nifer o’r clefydau prin hyn.
Bydd y drafodaeth hon yn canolbwyntio ar pam mae’n bwysig astudio clefydau prin a’r effaith y gallai canfyddiadau gwaith ymchwil i glefydau prin ei chael ar y boblogaeth ehangach.