Ewch i’r prif gynnwys

Targedu Tŵf Rhyngwladol

Dydd Iau, 24 October 2024
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

International Growth

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ehangu eich rhwydwaith rhyngwladol ac archwilio cyfleoedd twf busnes newydd?

Os felly, ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast nesaf a hwylusir gan yr Athro Jane Lynch ac a arweinir gan banel o arbenigwyr a fydd yn cynnig sesiwn ragarweiniol i gynadleddwyr i helpu i ddeall y cyfleoedd twf rhyngwladol a'r gefnogaeth sydd ar gael i arweinwyr busnesau bach. Bydd y panel yn egluro'r grefft o fasnach ryngwladol, methodoleg masnach, a sut y gall y llywodraeth roi cymorth i chi drwy Gyllid Allforio'r DU.

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys persbectif cyflenwyr, gan rannu mewnwelediadau ymarferol ar oresgyn heriau diwylliannol a materion llywodraethu eraill y dylid eu hystyried wrth gychwyn ar y cyfle enfawr hwn i dyfu busnes. Mae datblygu marchnadoedd newydd a datblygu rhyngwladol yn fodiwl yn ein cwrs Help i Dyfu: Rheoli, ond mae'r sesiwn hon yn gyfle i wahodd POB arweinydd busnes bach, o amrywiaeth o sectorau, i ymuno â ni i ddysgu mwy.

Aelodau'r Panel

  • Gareth John, Arweinydd y Sector (Ynni, Seilwaith, Addysg a'r Diwydiannau Creadigol), Yr Adran Masnach Ryngwladol (Cymru)
  • Stephen Wilson, Rheolwr Cyllid Allforio, UKEF Cymru a Swydd Henffordd
  • Paul Wong, CEO, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Busnes Byd-eang a Buddsoddi

Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i aelodau'r panel a chofrestru ar gyfer sesiwn ddilynol 'dechrau arni' sy'n cael ei chynllunio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gweld Targedu Tŵf Rhyngwladol ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education