Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Gyhoeddus POLIR 125 - Dr Ayesha Omar

Dydd Iau, 21 Tachwedd 2024
Calendar 17:00-18:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

No alternative text

Eleni mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dathlu 125 o flynyddoedd. Fe'i sefydlwyd yn ystod hydref 1899, y flwyddyn y dechreuodd y Rhyfel Eingl-Boer, pan oedd 240 ceiniog mewn punt. Mae hyn yn golygu ei bod yn un o'r cyntaf i'w creu mewn prifysgol siartredig yn y DU, ac roedd yn deillio o fenter gan y dyneiddwyr a'r diwygwyr cymdeithasol J S a Millicent Mackenzie. O'r cychwyn cyntaf, roedd gan yr Adran Gwyddor Wleidyddol, fel yr oedd bryd hynny, berthynas agos â'r gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Roedd y maes llafur yn cynnwys y broses ddeddfwriaethol; cyfraith a moesoldeb; cyfraith ryngwladol; a meddwl gwleidyddol, ac mae pob un o'r rhain, ynghyd â llawer mwy, yn dal yn ganolog yn y cwricwlwm. Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025, bydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn dathlu 125 mlynedd gyda chyfres o weithgareddau, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, arddangosfeydd a diwrnod chwaraeon i fyfyrwyr a staff.

Siaradwr: Dr Ayesha Omar – Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS), Prifysgol Llundain

Teitl: Ymgysylltiad Rhyddfrydol Hanes Deallusol Pobl Ddu yn Ne Affrica

Crynodeb: Mae'r ddarlith yn canolbwyntio ar herio'r naratif poblogaidd bod hanes deallusol pobl ddu yn Ne Affrica yn hollbresennol yn ei driniaeth o syniadau rhyddfrydol. Er bod lle rhyddfrydiaeth yn Ne Affrica gyfoes ôl-apartheid yn ddryslyd a chymhleth a bod ei defnyddioldeb i'r mwyafrif du, economaidd ddi-fraint yn cael ei herio'n aml, roedd mabwysiadu cyfansoddiad democrataidd De Affrica yn 1996, oedd yn amlinellu fframwaith clir iawn ar gyfer democratiaeth ryddfrydol, yn syndod i lawer, oedd yn ystyried bod cenedlaetholdeb du Affricanaidd yn cyfateb â sosialaeth a Marcsaeth. Y dystiolaeth sy’n dangos buddugoliaeth rhyddfrydiaeth yw'r llwybr a ddewiswyd gan Gyngres Genedlaethol Affricanaidd Nelson Mandela, a ildiodd ei hymlyniad i egwyddorion sosialaidd a ffafrio gwleidyddiaeth ryddfrydol-ddemocrataidd. Er bod cyrhaeddiad sefydliadol rhyddfrydiaeth yn eang, a'i hanes yn hir, roedd yn aml yn cynrychioli cred gyffredinolaidd fain oedd yn fregus ac yn gyfyngedig. Hefyd roedd traddodiad deallusol rhyddfrydol De Affrica'n un gwan, na chynhyrchodd amrywiad radical erioed. Roedd ei wendidau'n amlwg i lawer o ddeallusion oedd yn pryderu am ei fod mor agos at wynder, a'i ddiffyg potensial ar gyfer newid radical, cymdeithasol ac egalitaraidd. Eto i gyd, er gwaethaf diffyg apêl radical rhyddfrydiaeth roedd rhai o'r bobl a'r beirniaid mwyaf diddorol a fynegai syniadau rhyddfrydol yn rhan o draddodiad hanes deallusol pobl ddu. Mae'r dimensiwn hwn o ryddfrydiaeth yn Ne Affrica wedi'i ddiystyru, ei esgeuluso neu ei anwybyddu i raddau helaeth.

Bywgraffiad: Mae Dr Ayesha Omar yn Gymrawd Rhyngwladol yr Academi Brydeinig (2023) yn yr Adran Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol (SOAS) ac yn Uwch-ddarlithydd mewn theori wleidyddol yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol (Wits). Bydd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil tair blynedd yn SOAS ar Ymgysylltiad Rhyddfrydol Hanes Deallusol Pobl Ddu yn Ne Affrica. Bydd ymchwil Ayesha yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu prosiect llyfrau helaeth i Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Mae Ayesha wedi cyhoeddi amrywiol erthyglau a phenodau mewn llyfrau ar theori wleidyddol gymharol a hanes deallusol De Affrica. Yn ddiweddar cwblhaodd fonograff ar gyfer cyfres elfen Gwasg Prifysgol Caergrawnt mewn Theori Wleidyddol Gymharol: The Pluralistic Frameworks of Ibn Rushd and Abdullahi Ahmed An-Na’im (ar y gweill, Hydref 2024), mae'n gyd-olygydd ar gyfres o ddwy gyfrol Cambridge History of African Political Thought, a'r gyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar Decolonisation: Revolution and Evolution gyda David Boucher (Gwasg Prifysgol Wits, 2023). Ayesha yw golygydd Theoria: Journal of Social and Political Theory ac ysgrifennydd pwyllgor ymchwil athroniaeth wleidyddol y Gymdeithas Gwyddor Wleidyddol Ryngwladol (IPSA). Mae hi ar fwrdd golygyddol y cyfnodolyn Global Intellectual History (T&F) a Politics (SAGE). Yn 2017 derbyniodd wobr Mail and Guardian 200 Young South African am ei chyfraniadau i addysgu yn y brifysgol.

Cynullydd y Ddarlith Gyhoeddus: Yr Athro David Boucher, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Gweld Darlith Gyhoeddus POLIR 125 - Dr Ayesha Omar ar Google Maps
Lecture Theatre 0.22
Law Building
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Black History Month