Darlith Gyhoeddus POLIR 125 - Yr Athro Sergey Radchenko
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Eleni mae'r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dathlu 125 o flynyddoedd. Fe'i sefydlwyd yn ystod hydref 1899, y flwyddyn y dechreuodd y Rhyfel Eingl-Boer, pan oedd 240 ceiniog mewn punt. Mae hyn yn golygu ei bod yn un o'r cyntaf i'w creu mewn prifysgol siartredig yn y DU, ac roedd yn deillio o fenter gan y dyneiddwyr a'r diwygwyr cymdeithasol J S a Millicent Mackenzie. O'r cychwyn cyntaf, roedd gan yr Adran Gwyddor Wleidyddol, fel yr oedd bryd hynny, berthynas agos â'r gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol. Roedd y maes llafur yn cynnwys y broses ddeddfwriaethol; cyfraith a moesoldeb; cyfraith ryngwladol; a meddwl gwleidyddol, ac mae pob un o'r rhain, ynghyd â llawer mwy, yn dal yn ganolog yn y cwricwlwm. Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025, bydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn dathlu 125 mlynedd gyda chyfres o weithgareddau, gan gynnwys darlithoedd cyhoeddus, arddangosfeydd a diwrnod chwaraeon i fyfyrwyr a staff.
Siaradwr: Yr Athro Sergey Radchenko – LAWPL a Phrifysgol John Hopkins, Sefydliad Ymchwil Polisi Bologna
Teitl: "Ydyn ni mewn rhyfel oer arall? Tebygrwydd hanesyddol a chyfyng-gyngor gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw."
Crynodeb: Bydd y ddarlith yn ystyried y tebygrwydd rhwng y Rhyfel Oer (1945-1991) a'r foment bresennol i weld a yw rhyfeloedd oer bellach yn nodwedd a gaiff ei hailadrodd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, neu a ydym ni'n profi rhywbeth hollol wahanol i'r Rhyfel Oer gwreiddiol. Bydd Radchenko yn tynnu ar ei lyfr newydd, To Run the World: the Kremlin’s Cold War Bid for Global Power (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2024) wrth drafod penderfyniadau Moscow a Beijing, ac yn ystyried ym mha ffyrdd y mae wedi esblygu, a sut mae wedi aros yn ddigyfnewid ers 1945.
Bywgraffiad:
Mae'r Athro Sergey Radchenko yn frodor o Ynys Sakhalin, Rwsia. Treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol yn Rwsia a'r Unol Daleithiau, a chyflawnodd astudiaethau israddedig yn yr Unol Daleithiau, Hong Kong a Llundain. Derbyniodd ei radd israddedig o Ysgol Economeg Llundain yn 2001 (mewn Cysylltiadau Rhyngwladol) a PhD o'r un lle (Hanes Rhyngwladol). Wedi hynny bu'n gweithio ym Mongolia (Prifysgol Genedlaethol Mongolia), yn yr Unol Daleithiau (Prifysgol Pittsburg State), y DU (Ysgol Economeg Llundain), a Tsieina (Prifysgol Nottingham Ningbo China). Yn 2014, symudodd Radchenko i Gymru, gan ymgymryd â swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a symud ymlaen yn ddiweddarach i Brifysgol Caerdydd. Ers 2021, Radchenko yw Athro Nodedig Wilson E. Schmidt yr Ysgol Astudiaethau Rhyngwladol Uwch, Prifysgol Johns Hopkins. Mae hefyd yn aelod o'r Henry A. Kissinger Center for Global Affairs, SAIS.
Cynullydd y Ddarlith Gyhoeddus: Yr Athro David Boucher, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
Law Building
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX