Ewch i’r prif gynnwys

Windrush @75 — dangosiad ffilm

Dydd Llun, 21 October 2024
Calendar 17:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Am flynyddoedd lawer roedd pobl o wledydd y Gymanwlad yn cael gwahoddiad i ddod i Brydain i gefnogi'r Famwlad yn ei hymdrechion i adfer ar ôl dinistr yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1948, gofynnodd Gweinidog Prydain i wladolion y Gymanwlad yn Jamaica ac Ynysoedd y Caribî ddod i helpu i ailadeiladu Prydain ar ôl y rhyfel. Ar 21 Mehefin 1948, cyrhaeddodd HMT Empire Windrush yn Nociau Tilbury gyda dros 1,000 o deithwyr, sef cenhedlaeth Windrush. Daethon nhw oherwydd addewidion o waith, llety a chroeso cynnes. Pan gyrhaeddon nhw yn Llundain, roedd pobl yn anghyfeillgar, hiliol, ac anghwrtais iddyn nhw, gan chwalu eu gobeithion a’u hysbryd. Roedden nhw wedi rhoi o’u doniau, eu sgiliau a'u gwybodaeth i helpu i ailadeiladu Prydain a Chymru, a hynny heb feddwl amdanyn nhw eu hunain.

Mae eu straeon yn cydio, yn bersonol, ac ar eu gorau pan maen nhw’n cael eu hadrodd ganddyn nhw... dyma pam rydyn ni'n falch iawn o gynnal dangosiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o'n dathliadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu.

Gweld Windrush @75 — dangosiad ffilm ar Google Maps
Exhibition Space
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Black History Month