Cysylltiadau Busnes a Chymuned
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch ag Ysgol Busnes Caerdydd yn yr arddangosfa hon i ddathlu amrywiaeth a llwyddiannau ein busnesau nodedig lleol.
Gyda rhwydweithio busnes o 3-4pm, rydym yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ymuno â ni o 4pm i gwrdd â'ch busnesau bach lleol, blasu a phrynu rhai cynhyrchion a dysgu sut maen nhw'n cyfrannu at yr economi, yr amgylchedd, y gymuned a chymdeithas.
Dysgwch am ymagweddau cynaliadwy, moesegol a dynol at y farchnad a chymdeithas, a sut maent yn cyfrannu at lwyddiant busnesau bach.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Bod yn Ddynoll, gŵyl genedlaethol dyniaethau'r DU a gynhelir 7-16 Tachwedd 2024. Arweinir Gŵyl Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, gyda chefnogaeth gan Research England, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mwy o wybodaeth yn beinghumanfestival.org
Grange Gardens
Grangetown
Caerdydd
CFCF11 7LJ