Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil Dr Ben Ó Ceallaigh

Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024
Calendar 13:00-14:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae amgylchedd economaidd llym yn rhan graidd o neoryddfrydiaeth, y fath o gyfalafiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gwariant y wladwriaeth ar bron bob math o bolisi cyhoeddus wedi disgyn mewn gwledydd fel Iwerddon a Phrydain, proses a ddechreuodd cyn argyfwng economaidd 2008, ond sydd wedi cryfhau ers hynny.

Gan fod llawer o ieithoedd lleiafrifiedig sy’n cael eu hadfywio yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth ariannol y wladwriaeth, mae’n amlwg bod gan y polisïau economaidd yma arwyddocâd clir i fywioldeb ieithoedd sydd mewn perygl.

Gan gyfeirio at sawl iaith Geltaidd, bydda i’n trafod yn y ddarlith yma sut mae’r tensiwn rhwng y llymder economaidd sy’n rhan o neoryddfrydiaeth yn effeithio ar anghenion cymunedau sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Yn ogystal â thrafod toriadau i ymdrechion adfywio iaith, bydda i hefyd yn siarad am ffactorau perthnasol sydd ddim yn ymwneud ag iaith, fel y farchnad tai a’r ffaith dydi gwladwriaethau neoryddfrydol dim yn fodlon ymyrryd ynddi, a sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar agweddau tuag at achosion ôl-faterol fel adfywio iaith.

Rhannwch y digwyddiad hwn