Ewch i’r prif gynnwys

'Berengaria o Nafara: Brenhines Rhisiart Lewgalon mewn Hanes a Chwedloniaeth'.

Dydd Mercher, 23 October 2024
Calendar 19:00-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Berengaria, wife of Richard I, the Lionheart

Ar gyfer Darlith Goffa Eileen Younghusband 2024, rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at groesawu Dr Gabrielle Storey i drafod y thema ganlynol: 'Berengaria o Nafara: Brenhines Rhisiart Lewgalon mewn Hanes a Chwedloniaeth'.

Gan dynnu ar ei bywgraffiad gwych newydd o fywyd brenhines Lloegr sy’n aml yn cael ei hanghofio, mae Dr Gabrielle Storey yn ymchwilio i’r hanes a’r chwedloniaeth o amgylch Berengaria, sef gwraig Rhisiart Lewgalon (brenin Lloegr rhwng 1189 a 1199). Mae hi'n dilyn taith Berengaria o Sbaen i Sisili, Cyprus, y Wlad Sanctaidd a Ffrainc, a'i rôl yn dywysoges, yn frenhines, yn frenhines weddw, ac yn arglwyddes, a'r ffordd y mae Berengaria wedi cael ei hanghofio a'i hail-gofio mewn canrifoedd diweddarach.

Byddwn ni’n anfon dolen Zoom ar gyfer y digwyddiad at bawb sydd wedi cofrestru. Bydd yn cyrraedd ar ddiwrnod y ddarlith. Sylwer y bydd y ddolen Zoom yn cyrraedd drwy e-bost gan Dr Paul Webster. Os na fyddwch chi wedi cael dolen Zoom erbyn canol dydd ar 23 Hydref, ebostiwch Paul (websterp@caerdydd.ac.uk) a bydd yn ei hanfon atoch chi.
 

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series