Ewch i’r prif gynnwys

Deall Tsieina’n Well: Darlith - Creu Cymeriad Sun Wukong a'r Newid Thematig yn Y Daith i’r Gorllewin gan yr Athro Pan Chaoqing

Dydd Iau, 17 October 2024
Calendar 10:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image depicting character Sun Wokong

Crynodeb
Mae Sun Wukong, ffigwr artistig adnabyddus yn Tsieina o Y Daith i’r Gorllewin, yn archdeip diddorol iawn. Sut cafodd y cymeriad hwn ei greu, a sut daeth yn eicon artistig mor hoffus? Wrth i Y Daith i’r Gorllewin esblygu o fod yn stori am bererindod ar gyfer ysgrythurau i fod yn stori am deithiau llawn antur, daeth i gynnwys toreth o ddeunydd creadigol. Sut wnaeth Y Daith i’r Gorllewin gynnwys yr elfennau hyn yn ddi-dor i gyflwyno thema aml-ddimensiwn yn y gwaith? Dewch i ni drin a thrafod byd artistig Y Daith i’r Gorllewin gyda'n gilydd.

Mae Pan Chaoqing, sydd â Ph.D. mewn Llenyddiaeth, yn athro ac mae ei phrif feysydd ymchwil yn cynnwys addysgu Tsieinëeg yn rhyngwladol, llenyddiaeth drama, a rhannu gwybodaeth ar ddiwylliant Tsieina. Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil a ariannwyd gan y Weinyddiaeth Addysg, y Ganolfan dros Addysg Ieithyddol a Chydweithrediad, a sefydliadau yn y gwyddorau cymdeithasol ar lefel taleithiol. Mae hi wedi cyhoeddi dros ddeg ar hugain o bapurau mewn cyfnodolion craidd fel Research on Ethnic Literature a The Art of Drama.