Ewch i’r prif gynnwys

Hanes Cudd Helfa Wrachod y Basg

Dydd Mercher, 16 October 2024
Calendar 17:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cyfrinachau Helfa-Wrachod Gwlad y Basg

Ymunwch mewn Saboth y Gwrachod...

Dewch i ddarganfod gwir hanes Helfa Wrachod Gwlad y Basg mewn digwyddiad arbennig, ble bydd Juliette Wood mewn sgwrs gyda Jan Machielsen, awdur llyfr newydd ar y pwnc.

Beth oedd Helfa Wrachod Gwlad y Basg

Yng nghanol haf 1609, roedd panig am wrachyddiaeth yn tyfu yn y Pays Labourd, ardal ddiarffordd yn Ffrainc. Penderfynodd dau farnwr o Bordeaux deithio i ymchwilio'r hanesion.

Yno, fe glywson nhw straeon dwys am wrachod yn addoli'r diafol, gyda hanesion am ganibaliaeth, fampiraeeth a rhyw dieflig.

Dihangodd y rhai a gyhuddwyd i Sbaen, gan ledaenu panig ymhellach. Mae helfa wrachod Gwlad y Basg yn un o helfaoedd gwrachod enwocaf hanes Ewrop. Yn ei lyfr newydd sbon mae Jan Machielsen yn esbonio'r gwir hanes tu hwnt i'r panig.

Digwyddiad yn Saesneg.

Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn