Ewch i’r prif gynnwys

Cadw’n Heini yn yr Oes Ddigidol

Calendar Dydd Gwener 25 October 2024, 00:00-Dydd Iau 7 Tachwedd 2024, 00:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Service users of Pedal Power Cardiff

Er bod datblygiadau technolegol wedi bod o fudd i gymdeithas, mae ymchwil yn dangos eu bod hefyd wedi arwain at leihad sylweddol yn ein gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn cael effaith ar ein deilliannau iechyd a lles byrdymor a hirdymor.

Bydd ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig mentrau beicio a lles cynhwysol ledled Cymru i archwilio rhwystrau, cyfleoedd a manteision integreiddio mwy o weithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd yn yr oes ddigidol. Mae ein partneriaid a'n lleoliadau digwyddiadau yn cynnwys Pedal Power Caerdydd (25 Hydref), Age Alive Casnewydd (29 Hydref) , Foothold Cymru Llanelli (5 Tachwedd), a Wheeltogether Aberystwyth (7 Tachwedd).

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau am ddim Prifysgol Caerdydd, yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Festival of Social Science