Ewch i’r prif gynnwys

Man in a Hurry: Murray MacLehose and Colonial Autonomy in Hong Kong - Sgwrs Llyfr gan yr Athro Ray Yep

Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2024
Calendar 16:00-17:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Book Cover

Bydd Ray Yep yn rhoi cyflwyniad ar ei lyfr diweddaraf, Man in a Hurry: Murray MacLehose and Colonial Autonomy in Hong Kong. Yn y llyfr hwn, mae Ray Yep yn trafod y deunyddiau archifol diweddaraf sydd ar gael ac yn edrych eto ar raglawiaeth allweddol MacLehose yn Hong Kong rhwng 1971 a 1982. Cyrhaeddodd MacLehose yng nghyfnod heriol y 1970au, pan oedd pobl yn disgwyl diwygio cymdeithasol, pryder i’w gael ynghylch y berthynas rhwng Hong Kong a Llundain a ffactor 1997 yn amlygu ei hun. Llwyddodd y rhaglaw i gyflwyno nifer o ddiwygiadau cymdeithasol amrywiol. Deliodd hefyd â nifer o faterion o bwys, gan gynnwys yr ymgyrch gwrthlygredd, argyfwng y ffoaduriaid o Fietnam a phrydles tir y Tiriogaethau Newydd y tu hwnt i 1997. Mae Yep yn datgelu’r tensiwn a’r bargeinio rhwng llywodraeth Prydain a’r drefedigaeth ac yn egluro sut y gallai budd y drefedigaeth gael ei arddel, ei amddiffyn a’i negodi. Mae'r llyfr hwn yn astudiaeth bwysig o ffyniant Hong Kong pan gychwynnodd economi’r ddinas o ddifrif. Mae’n gyfraniad sylweddol at ein dealltwriaeth o sut y cafodd ymreolaeth leol ei diffinio. 

Yr Athro Ray Yep yw Cyfarwyddwr Ymchwil Canolfan Hanes Hong Kong, Prifysgol Bryste. Ef yw cyd-olygydd Routledge Handbook of Contemporary Hong Kong (2018) a May Day in Hong Kong: Riot and Emergency in 1967 (Gwasg Prifysgol Hong Kong, 2008). 

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i drefnu ar y cyd â Nomad Reading C.B.C. Grŵp darllen yn y DU gan bobl o Hong Kong Nomad Reading Darllen Nomad C.B.C. sy’n gobeithio hyrwyddo darllen a mathau eraill o weithgareddau diwylliannol. Rydyn ni’n Gwmni Buddiannau Cymunedol cofrestredig (rhif cwmni: 15442510).