Llywio Dadwybodaeth: Pwy Ddylem ni Ymddiried Ynddo? gyda Babita Sharma
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae byd newyddion a gwybodaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd mynd i’r afael ag ef. Mae cynnydd newyddion ffug a lledaenu chwim twyllwybodaeth a chamwybodaeth yn y cyfryngau cymdeithasol yn erydu ymddiriedaeth mewn sefydliadau, yn rhannu cymunedau ac yn niweidio democratiaethau. Rydyn ni’n gweld miliynau o ddarnau o wybodaeth bob dydd ond sut rydyn ni'n gwybod pwy y dylen ni ymddiried ynddo, a pha sgiliau sydd eu hangen arnon ni i gadarnhau'r ffeithiau sy'n cael eu cyflwyno inni? A phwy sy'n gwneud y penderfyniadau yn y ffynonellau a’r gwefannau newyddion rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw?
Ymunwch â ni i wrando ar y ddarlledwraig a’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Babita Sharma, fydd yn siarad am ei phrofiadau o fod yn newyddiadurwraig ac yn gyfwelydd yn oes newyddion ffug a deallusrwydd artiffisial, ei beirniadaeth o’r rheini mewn grym sy'n ceisio lledaenu twyllwybodaeth, a’r cyfrifoldeb ar bawb i ystyried yn feirniadol yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthon ni. Bydd panel o arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymuno â Babita hefyd i ymchwilio’n ddyfnach i’r pwnc a rhannu canfyddiadau diweddaraf eu hymchwil.
Siaradwr gwadd a phanelwyr:
Darlledwraig, newyddiadurwraig ac awdur o fri sydd â mwy na 15 mlynedd o brofiad yn y BBC yw Babita Sharma.
Yn ddiweddar cyflwynodd Babita cyfres o bodlediadau, ‘Whose Truth?’, sy'n ystyried effaith twyllwybodaeth am COVID-19, casineb at fenywod, newid yn yr hinsawdd a'r rhyfel yn yr Wcráin. Mae ei gyrfa newyddiadurol yn cynnwys rhoi sylw i ddigwyddiadau byd-eang o bwys megis pandemig COVID-19, etholiadau UDA yn 2020 a phrotestiadau Black Lives Matter, ac yn sgil yr adroddiad olaf hwn enillodd y Wobr Cyflawni Asiaidd.
Mae ei chyfrol ‘The Corner Shop’, sydd wedi cael cryn ganmoliaeth ac a ysbrydolwyd gan ei phlentyndod ym Mhrydain yr 1980au, yn ystyried hanes cymdeithasol siopau cornel Prydain. Enillodd y llyfr Wobr Llyfrau Busnes a chafodd sylw ar BBC Radio Four a chlwb llyfrau Between the Covers ar BBC Two.
Mae Babita yn cadeirio digwyddiadau proffil uchel, gan gynnwys Fforwm Buddsoddi’r Byd y Cenhedloedd Unedig 2023, uwchgynhadledd World A.I., COP 27, a Gwobrau Technegol y DU. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda BA mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu ym 1998.
Yr Athro Martin Innes yw Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigwr byd-eang ar ddeall twyllwybodaeth ac yn arwain rhaglen ymchwil ryngwladol o bwys i ddeall achosion a goblygiadau cyfathrebiadau digidol sy’n llurgunio ffeithiau ac yn dwyllodrus.
Yr Athro Kate Daunt yw Athro Marchnata Ysgol Busnes Caerdydd a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd. Ymhlith ei diddordebau ymchwil y mae twyllwybodaeth, marchnata gan ddylanwadwyr, camymddwyn gan ddefnyddwyr a newid ymddygiadol.
Mae Bella Orpen yn fyfyriwr PhD ac yn Gydymaith Ymchwil yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth. Ei diddordebau ymchwil yw damcaniaethau cynllwynio ac ymgyrchoedd twyllwybodaeth.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3BB