Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil Dr Jenny Day

Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2024
Calendar 13:00-14:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn ogystal â’r saith cerdd gynnar ac adnabyddus sy’n cynnwys proffwydoliaethau Myrddin a phytiau am ei hanes, ceir tua dau gant o gerddi eraill a briodolir iddo mewn llawysgrifau sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif hyd at y ddeunawfed ganrif. Mae cyfran sylweddol ohonynt yn gerddi ymddiddan a’r rheini a drafodir yn y seminar hon, gan ystyried y darlun a geir o Fyrddin ac o’i gymdeithion, yn enwedig ei chwaer Gwenddydd, a ffurf a natur y cerddi eu hunain. Er bod nifer ohonynt wedi eu hysbrydoli gan y gerdd gynnar bwysig ‘Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei chwaer’, gellir gweld ynddynt ddylanwad barddoniaeth broffwydol Taliesin hefyd, ac un nodwedd drawiadol arnynt yw’r fersiynau gwahanol niferus a welir ar yr un gerdd yn aml, gan adlewyrchu addasu ac ailddehongli mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol. Gwelid Myrddin ei hun, ar y llaw arall, yn ffigur awdurdod cyson, diamser ar hyd y canrifoedd yn ei gartref dan y coed.

Rhannwch y digwyddiad hwn