Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Cymunedol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Creu Hanes yng Nghaerdydd yn ddathliad deuddydd sy’n dod ag ymchwilwyr o’n Hysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, partneriaid cymunedol ac artistiaid ynghyd, ar y cyd â thîm dynodedig o wirfoddolwyr lleol, i archwilio hanes cyffrous yr ardal, adeiladu sgiliau a chreu cyfleoedd ar gyfer cymunedau bywiog Caerau a Threlái.
Ar ddiwrnod cyntaf Creu Hanes yng Nghaerdydd ar 15 Tachwedd, rydym yn croesawu aelodau o gymuned Caerau a Threlái i Ganolfan Dreftadaeth Caer i archwilio’r darganfyddiadau anhygoel a arweinir gan y gymuned o’r ardaloedd o’r gorffennol o oes y cerrig i’r oes fodern. Profwch arteffactau rhyfeddol o’r Oes Efydd o’r tŷ cyntaf yn y ddinas, camwch yn ôl mewn amser i archwilio’r Oes Haearn a chael profiad ymarferol o grefftau hynafol ar thema treftadaeth. Does dim angen cadw lle ar gyfer Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Cymunedol - galwch heibio pryd y mynnech.
Cynhelir diwrnod olaf Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Darganfod ddydd Sadwrn 16 Tachwedd o 11am-3pm yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, drws nesaf i safle fila Rufeinig a’r tŷ hynaf y gwyddys amdano yng Nghaerdydd sy’n dyddio o’r Oes Efydd.
Mae croeso i bawb i’r diwrnod llawn hwyl i’r teulu hwn a gweithgareddau rhyngweithiol sy’n archwilio gorffennol Caerdydd: blasu bwydydd Rhufeinig, cerdded trwy dirweddau’r Oes Efydd, cyfansoddi sagas canoloesol, darganfod chwedlau am wrachod a helfeydd gwrachod, dysgu am hanes llafar a chyd-greu celf ar thema treftadaeth. Cadwch eich lle yma
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol dyniaethau'r DU a gynhelir 7-16 Tachwedd 2024. Arweinir Gŵyl Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, gyda chefnogaeth gan Research England, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mwy o wybodaeth yn beinghumanfestival.org
Heol yr Eglwys
Caerau
Caerdydd
CF5 5LQ