Ewch i’r prif gynnwys

Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Darganfod

Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024
Calendar 11:00-15:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Boy holding bronze age axe

Dod ag ymchwilwyr o'n Hysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, partneriaid cymunedol ac artistiaid, a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr lleol ynghyd i archwilio hanes cyffrous, adeiladu sgiliau a chreu cyfleoedd ar gyfer cymunedau bywiog Caerau a Threlái.

Cynhelir diwrnod cyntaf Creu Hanes yng Nghaerdydd ddydd Gwener 15 Tachwedd yng Nghanolfan Dreftadaeth Caer rhwng 12-7pm. Bydd ar gyfer aelodau’r gymuned Trelai a Caerau yn unig a bydd cyfle i archwilio darganfyddiadau hynod y gymuned o orffennol Caerdydd, o Oes y Cerrig i’r cyfnod modern. Profwch arteffactau rhyfeddol o’r Oes Efydd o’r tŷ cyntaf yn y ddinas, camwch yn ôl mewn amser i archwilio’r Oes Haearn a chael profiad ymarferol o grefftau hynafol ar thema treftadaeth. Does dim angen cadw lle ar gyfer diwrnod cyntaf Creu Hanes yng Nghaerdydd - galwch heibio!

Cynhelir diwrnod olaf Creu Hanes yng Nghaerdydd: Cynhelir Diwrnod Darganfod ddydd Sadwrn 16 Tachwedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, drws nesaf i safle fila Rufeinig a’r tŷ hynaf y gwyddys amdano yng Nghaerdydd sy’n dyddio o’r Oes Efydd. Bydd y diwrnod yn llawn dop o hwyl i’r teulu oll a gweithgareddau rhyngweithiol ar thema’r gorffennol megis: blasu bwydydd Rhufeinig, cerdded trwy dirweddau’r Oes Efydd, cyfansoddi sagas canoloesol, darganfod chwedlau am wrachos a helfeydd gwrachod, dysgu am hanes llafar a chyd-greu celf ar thema treftadaeth. Cadwch eich lle.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol dyniaethau'r DU a gynhelir 7-16 Tachwedd 2024. Arweinir Gŵyl Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, gyda chefnogaeth gan Research England, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mwy o wybodaeth yn beinghumanfestival.org 

Cardiff West Community High School
11 Heol Penally
Caerdydd
Caerdydd
CF5 4XP

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Being Human Festival