Ailadrodd hanesion cudd a chymhleth Caerdydd
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae’r daith ryngweithiol hon sy’n dechrau at Adeilad Morgannwg yn tywys cyfranogwyr drwy’r ddinas, gan dynnu sylw at hanesion cymhleth ac ymylol Caerdydd.
Yn dilyn y daith, byddwn yn dod at ein gilydd yn Hwb y Llyfrgell Ganolog i rannu syniadau ac ail-fapio hanes a daearyddiaeth Caerdydd yn greadigol. Bydd cyfranogwyr yn gallu mynd â dulliau ymarferol a syniadau ar gyfer ailfeddwl ffyrdd o gynrychioli hanes eu tref neu ddinas eu hunain.
Mae’r digwyddiad hwn, a arweinir gan ymchwilwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â The Wallich (elusen gofrestredig sy’n gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru), yn adeiladu ar ymchwil a chymuned o arfer rhwng academyddion, grwpiau cymunedol a chymdeithasau yng Nghaerdydd a thu hwnt i ddeall yn well beth mae 'dad-drefedigaethu'r ddinas' yn ei olygu yn ymarferol.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol dyniaethau'r DU a gynhelir 7-16 Tachwedd 2024. Arweinir Gŵyl Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, gyda chefnogaeth gan Research England, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mwy o wybodaeth yn beinghumanfestival.org
King Edward VII Avenue
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3WT