Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyda Athro Laura McAllister a’r Gwir Anrh. Dr Rowan Williams
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Fe'i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gyda 2 amcan eang; yn gyntaf, datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol, y mae Cymru yn parhau i fod yn rhan annatod ohonynt, ac yn ail, ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Gellir dod o hyd i ymateb llawn Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yma.
Yn y Sesiwn dros Frecwast hwn, bydd cyd-gadeiryddion yr adroddiad, yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams yn ymuno â ni i edrych ar eu canfyddiadau ac i rannu gwaith sy’n mynd rhagddo ynghylch yr argymhellion sy’n ymwneud â democratiaeth ac ymgysylltu. Bydd y panel hefyd yn trafod sut y mae’r adroddiad wedi dod i law, gan rannu eu disgwyliadau o’r hyn yr hoffent weld cynnydd o dan lywodraeth Lafur newydd ar lefel y DU, ac wrth gwrs, Prif Weinidog newydd yng Nghymru.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU