Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus 2024-2025 - Chwalu’r hud sy’n ymwneud ag eithafoedd yr hinsawdd: sut mae gwersi o’r gorffennol yn llywio’r dyfodol

Dydd Mawrth, 11 Mawrth 2025
Calendar 18:30-19:30

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Climate hope display

Golwg paleontolegol ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth modern - Daniela Schmidt (Prifysgol Bryste)

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod brawychus o gynhesu byd-eang. Bydd y gyfres yn dangos sut mae newidiadau mewn nwyon tŷ gwydr yn y gorffennol wedi effeithio ar hinsawdd fyd-eang, cylchredau hydrolegol, gorchudd iâ ac ecosystemau morol a daearol ein planed. Bydd yn trin a thrafod sut y gall deall ein gorffennol daearegol gyfrannu at atebion ffisegol a chymdeithasol posibl er mwyn lliniaru digwyddiadau eithafol yn y dyfodol.