Deallusrwydd Artiffisial mewn arferion creadigol digidol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae datblygiadau diweddar i dechnolegau dysgu dwfn yn galluogi data i gael ei newid neu ei drin i greu mathau newydd o ‘fywyd ar ôl marwolaeth’ - megis atgyfodiadau ‘holograffig’ o enwogion, ffigurau hanesyddol ffug, lluniau archif wedi’u hanimeiddio, neu gynorthwywyr cerddoriaeth a llais yn defnyddio data llais y meirw.
Mae ymchwil gan yr Ysgol Newyddiaduraeth a Diwylliant ochr yn ochr â Choleg y Brenin, Llundain, yn archwilio’r defnydd o’r prosesau awtomataidd ac algorithmig hyn, a’u heriau moesegol.
Ymunwch â’r ymchwilwyr mewn gweithdy i archwilio sut mae creu bywyd ar ôl marwolaeth, a dysgu sut y gellir defnyddio a chamddefnyddio data digidol. Bydd cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol o heriau moesegol, ynghyd â chyfle i greu bywyd ar ôl marwolaeth synthetig, a rhyngweithio â gwaith ein partner creadigol, yello brick.
Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â bywyd ar ôl marwolaeth algorithmig, yn ogystal ag offer a chysylltiadau o fewn y sectorau creadigol a diwylliannol i helpu i lywio'r datblygiadau arloesol hyn yn gyfrifol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau am ddim Prifysgol Caerdydd, yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Canolfan Dehongli
Castell Caerdydd
Caerdydd
CF10 3RB