Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol trwy ddata cenedlaethol

Dydd Iau, 7 Tachwedd 2024
Calendar 16:30-18:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Sgwrs a gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg i archwilio’r defnydd o ddata cenedlaethol i gefnogi plant ag ADY yn well.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru yn defnyddio data gweinyddol i ateb cwestiynau am addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae’r sgwrs hon, sydd ar agor i weithwyr proffesiynol addysg sy’n cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ysgolion cynradd, yn rhoi cyflwyniad i ddata gweinyddol: beth yw e, sut mae’n cael ei gasglu, a sut mae’n cael ei storio yn ddiogel.

Bydd ymchwilwyr yn rhannu enghreifftiau o astudiaethau a gynhaliwyd gyda’r data hwn, a sut maent wedi dylanwadu ar bolisi i wella profiad ysgol plant ag ADY yng Nghymru.

Yn dilyn y sgwrs, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu eu barn ar bynciau o flaenoriaeth ar gyfer ymchwil ADY, trwy awgrymu cwestiynau ymchwil y gellid eu gofyn gyda'r data. Bydd y mewnwelediadau dienw hyn yn helpu Prifysgol Caerdydd i bennu blaenoriaethau ymchwil ar gyfer y dyfodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau am ddim Prifysgol Caerdydd, yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

https://www.eventbrite.co.uk/e/supporting-children-with-additional-learning-needs-through-national-data-tickets-999966736427

#wiserd; #YDGCymru; #PrifysgolCdydd; #GŵylESRC

Prif Neuadd
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd
Heol Harbwr
Cardiff Bay
CF10 4PA

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Festival of Social Science