Sut i ddefnyddio Instagram i sefyll allan yn eich gyrfa
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae gwybod sut mae adeiladu brand digidol i ddenu gyrfa, cleientiaid a chyfleoedd busnes yn dod yn rhan bwysig o lwyddo’n broffesiynol ac ym myd busnes.
Yn seiliedig ar ymchwil i gynrychiolaeth menywod yn y cyfryngau, ymunwch â'n Hysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant am weithdy ymarferol ar sut i adeiladu eich brand ar-lein a mynd â'ch proffil Instagram i'r lefel nesaf, yn arbennig ar gyfer menywod busnes ac entrepreneuriaid lleol.
Bydd proses cam wrth gam i’r digwyddiad ar gyfer datblygu eich proffil Instagram proffesiynol, gan gynnwys creu bwrdd arddull personol i’ch brand. Yna, bydd ffotograffydd proffesiynol yn dod i dynnu lluniau er mwyn perffeithio’ch proffil.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd, yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Y Deml Heddwch
Heol y Frenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3AP