Archwilio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ar arferion creadigol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae modelau AI cynhyrchiol sy'n gallu creu testun, delweddau, fideos a sain yn dod yn fwy a mwy hygyrch. Mae artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn gweld effaith penodol, ac maent wedi creu pryderon y gallai ddod yn awtomataidd yn y dyfodol.
Dan arweiniad grŵp ymchwil Technoleg Newydd a Chymdeithas Ddigidol, sydd wedi ymrwymo i ddeall y risgiau, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â thechnoleg newydd a chymdeithas ddigidol, mae'r digwyddiad hwn yn archwilio'r fersiynau diweddaraf o AI cynhyrchiol.
Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu’n greadigol ac yn arbrofi gyda modelau AI cynhyrchiol i drafod, cydweithio a chreu set o weledigaethau a rhagfynegiadau ar gyfer yr effaith y bydd AI cynhyrchiol yn ei chael ar eu meysydd creadigol.
Bydd yr adborth a gasglwyd yn y gweithdy yn helpu i lywio ymchwil pellach ar effaith ac ymgysylltiad y celfyddydau yng Nghymru ag AI cynhyrchiol.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd, yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Chapter
Stryd y Farchnad, Canob
Caerdydd
CF5 1QE