Ewch i’r prif gynnwys

Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol – Gweminar Canolfan Wolfson

Dydd Iau, 19 Medi 2024
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Event banner displaying event information

Ymunwch â ni ddydd Iau 19 Medi ar gyfer digwyddiad newydd sy’n cael ei gynnal gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc er mwyn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid.

Bydd ein gweminar, Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol, yn tynnu sylw at ein hymchwilwyr ymroddgar ac aelodau gweithredol o’n Grŵp Cynghori Ieuenctid, wrth iddyn nhw arwain trafodaeth ar yr effaith y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar iechyd meddwl pobl ifanc.

Bydd y panel yn treiddio’n ddwfn i’r ymchwil ddiweddaraf sy'n digwydd yn y Ganolfan. Ar ôl hynny, bydd trafodaeth grŵp dan arweiniad ein Hymgynghorwyr Ieuenctid.

Diben y sesiwn ryngweithiol hon yw ysgogi deialog agored rhwng yr ymchwilwyr a phobl ifanc a dyfnhau dealltwriaeth y gynulleidfa o’r ffyrdd y gall y cyfryngau cymdeithasol ddylanwadu ar iechyd meddwl, boed hynny mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol. Caiff aelodau o’r gynulleidfa eu hannog i gymryd rhan weithredol yn y digwyddiad drwy ofyn eu cwestiynau ymlaen llaw neu yn ystod y sesiwn holi ac ateb fyw.

P’un a ydych chi’n berson ifanc sy’n llywio’r byd digidol, yn rhiant, yn addysgwr neu’n weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cipolygon gwerthfawr ichi, yn ogystal â chynnig cyfle unigryw ichi glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc ynghylch y pwnc pwysig hwn.


Beth yw Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid?
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid stem4 yn ddiwrnod ymwybyddiaeth sy’n cael ei gynnal 19 Medi bob blwyddyn. Mae'n annog dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Yn dilyn sgyrsiau gyda phobl ifanc, mae stem4 wedi dewis thema ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid 2024, sef #RheoliEichSgrolio. Y nod yw trafod haciau digidol syml a strategaethau iechyd meddwl sydd eu hangen er mwyn i bobl ifanc gael profiad ar-lein cadarnhaol a diogel.

Gwybodaeth am Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Rydyn ni’n ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc. Mae ein canolfan ymchwil yn dod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ynghyd ac mae cyllid hael gan Sefydliad Wolfson yn gwneud hyn yn bosibl.

Rhannwch y digwyddiad hwn