Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Caerdydd ar Economeg Mudo

Dydd Iau, 24 October 2024
Calendar 09:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cardiff Business School, Cardiff University

Nod y gweithdy yw dod ag ysgolheigion rhyngwladol ynghyd i gyflwyno a thrafod eu hymchwil ym maes economeg mudo ac i sefydlu rhwydwaith academaidd ar gyfer y grŵp hwn.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Joan Llull (Sefydliad Dadansoddi Economaidd (IAE-CSIC) ac Ysgol Economeg Barcelona (BSE)) a Michele Battisti (Ysgol Busnes Adam Smith, Prifysgol Glasgow) yn rhoi’r prif areithiau.

Rydym yn croesawu cyfraniadau o bob maes ynghlwm wrth economeg. Rydym yn annog ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn enwedig. Ymhlith y pynciau sydd o ddiddordeb y mae’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddo: gwahaniaethau yn y farchnad lafur, rôl cwmnïau ym mherfformiad ymfudwyr yn y farchnad lafur, integreiddio mudwyr yn economaidd a chymdeithasol, a dulliau a ffynonellau data newydd i astudio economeg mudo.

Dylai ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno papur gyflwyno papur llawn (rydym yn croesawu fersiynau rhagarweiniol) erbyn 1 Medi 2024 fan bellaf. Anfonwch eich papurau drwy e-bostio MigrationWorkshop2024@caerdydd.ac.uk. Dim ond papurau heb eu derbyn hyd yn hyn i'w cyhoeddi y dylid eu cyflwyno. Sylwer ein bod yn disgwyl mai'r sawl sy’n anfon y papur fydd cyflwynydd y papur. Anfonir negeseuon cadarnhau erbyn 15 Medi 2024.

Nid oes ffi gofrestru. Disgwylir i’r sawl fydd yn cymryd rhan i dalu am eu treuliau teithio a llety eu hunain. Cynhelir cinio’r gynhadledd ar 24 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am y gweithdy ar gael yma: https://sites.google.com/view/migrationworkshop2024.

Hoffem gydnabod cymorth ADR UK (Administrative Data Research UK) a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (rhan o Ymchwil ac Arloesi’r DU). [Rhif y grant: ES/Y001001/1]

Trefnwyr

Ezgi Kaya (Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd)

Luisanna Onnis (Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd)

I'w gadarnhau
Ysgol Busnes Caerdydd
Rhodfa Colum, Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn