Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Gyhoeddus yr Hodge I’w chynnal gan y Sefydliad Arloesedd ym meysydd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl

Dydd Iau, 21 Tachwedd 2024
Calendar 17:00-19:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yr Athro Paul Morgan - System amddiffyn bwerus yw llid, sy'n galluogi'r corff i ymateb yn gyflym i heintiau neu beryglon eraill, gan greu celloedd imiwnedd amddiffynnol i niwtraleiddio a chael gwared ar y perygl. Fodd bynnag, mae i lid ei anfanteision yn ogystal â’i fanteision, yn enwedig mewn achosion lle, pan nad yw’n cael ei reoli'n iawn, mae’n gallu niweidio ein celloedd a’n meinweoedd, fel y gwelir mewn amryw o glefydau, gan gynnwys arthritis a COVID. Tan yn ddiweddar, talwyd llai o sylw at y rôl y mae llid yn ei chwarae mewn achosion o ddementia, a chlefydau eraill sy’n effeithio ar yr ymennydd, oherwydd ystyriwyd bod yr ymennydd wedi'i amddiffyn ynddo’i hun rhag llid. Yn fy labordy, rydyn ni’n gweithio ar system o'r enw “complement” sy'n bresennol yn y gwaed ac mewn meinweoedd; mae’r broses o actifadu hyn yn rhan allweddol o systemau amddiffyn y corff, gan iddi weithredu’n system rybuddio gynnar ar gyfer llid ac yn sbardun iddi. Yn y ddarlith hon, bydda’ i’n trafod y dystiolaeth honno sy'n dod i'r amlwg sy'n awgrymu mai’r system “complement” a'r llid y mae hyn yn ei achosi yw’r achos wrth wraidd colli celloedd yn yr ymennydd sy'n nodweddiadol o ddementia. Mae cynnwys y system “complement” nid yn unig yn taflu goleuni newydd ar sut y mae dementia yn datblygu, ond hefyd yn hwyluso ffyrdd newydd o drin dementia, gan ddefnyddio cyffuriau blocio “complement” a ragnodir eisoes i drin clefydau eraill.