Dad-wybodaeth, Democratiaeth a Diddymu Realiti
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae tystiolaeth yn dangos bod etholiadau democrataidd yn denu dad-wybodaeth a gweithrediadau gwybodaeth gwladwriaethau tramor. Gyda datblygiad cyflym technolegau deallusrwydd artiffisial (AI), mae maint a dwyster bygythiadau gwybodaeth i ddemocratiaeth yn codi. Mae'r bygythiadau hyn yn peri risgiau difrifol i ddiogelwch byd-eang a threfn gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd.
Eleni, gyda dros hanner poblogaeth y byd yn medru cymeryd rhan mewn etholiadau democrataidd, mae gwaith y Sefydliad Arloesi Troseddau a Cudd-wybodaeth Diogelwch Prifysgol Caerdydd yn bwysicach nag erioed. Clywch gan yr Athro Martin Innes, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad am eu gwaith i ddarganfod ymyrraeth gwladwriaethau tramor mewn etholiadau ac i fynd i’r afael ag effaith gwybodaeth ystrywiedig ar ein cymdeithasau.