Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio Ymgysylltu’r AMG 2024
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Fe'ch gwahoddir i Sesiwn Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio a gynhelir gan Academi Meddalwedd Cenedlaethol (AMC), Prifysgol Caerdydd. Bydd y digwyddiad yma yn gyfle i chi ganfod rhagor am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i ymgysylltu â myfyrwyr yr AMG ac i drafod unrhyw syniadau sydd gennych am brosiectau myfyrwyr, ac unrhyw weithgareddau eraill, gyda’n staff academaidd.
Mae amryw o ffyrdd y gallwch ymgysylltu gyda’r NSA a'n myfyrwyr, o gynnig prosiectau myfyrwyr, cyfleoedd am swyddi a gyrfaoedd (interniaeth / lleoliadau / graddedigion), hyd at ddarlithoedd gwadd a chyflwyniadau, sesiynau #CinioaDysgu, a rhedeg Hacathonau ar gyfer datblygu cysyniadau a nawdd. Mae ymgysylltu’n llwyddiannus â diwydiant yn allweddol i ethos yr AMG.
Yn ystod y digwyddiad yma, byddwch hefyd yn cael cyfle i rwydweithio gyda’n myfyrwyr meistr sydd wrthi’n cwblhau eu gradd MSc Peirianneg Meddalwedd, wrth iddynt ddangos eu gwaith ar eu prosiectau traethawd hir. Bydd hwn yn rhoi blas o beth gall ein myfyrwyr gyflawni a pha sgiliau sydd ganddynt i weithio gyda chi ar eich syniadau yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad yma yn gyfle gwych i ni eich cyflwyno chi i’r math o ffyrdd y gallwch ymgysylltu gyda’r Academi Meddalwedd Cenedlaethol a dechrau trafodaethau am sut gallwn ymgysylltu yn y flwyddyn sydd i ddod. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle ar y digwyddiad hwn.
Julian Hodge Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU