Ewch i’r prif gynnwys

Cryfhau democratiaeth yn Ewrop: beth y gellir ei wneud?

Dydd Mawrth, 24 Medi 2024
Calendar 13:00-14:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Blwyddyn Democratiaeth yw 2024, pan fydd mwy na 2 biliwn o bobl yn bwrw pleidlais.

Mae i bob person yn Ewrop ran fawr yn y polisïau sy'n llywio ein bywydau, boed yn bolisïau i fynd i'r afael ag argyfyngau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd neu’n bolisïau i ymdrin â materion lleol megis cyflwr ein hysgolion a'n hysbytai. Fodd bynnag, mae llawer o ddinasyddion wedi colli ffydd mewn gwleidyddiaeth ac wedi troi eu cefn arni; mae rhai ohonyn nhw’n pleidleisio dros bleidiau poblyddol, ac nid yw llawer ohonyn nhw’n trafferthu bwrw pleidlais o gwbl.

Beth yw’r prif heriau sy’n wynebu democratiaeth yn Ewrop, a beth y gellir ei wneud? Pa effaith y bydd technolegau digidol newydd megis y cyfryngau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial yn ei chael ar esblygiad ac iechyd systemau democrataidd yn y dyfodol?

Sut y gallwn ni hyrwyddo’r sffêr cyhoeddus a chynnwys y cyhoedd yn ein systemau democrataidd? Sut olwg sydd ar y berthynas rhwng arbenigwyr, llunwyr polisïau a’r cyhoedd, a sut y gallwn ni gryfhau’r cysylltiad hwn?

Ymunwch â ni ar gyfer y ddadl amserol hon, sy’n agored i bawb yn rhad ac am ddim.

Ein panelwyr  
  • Barbara Prainsack MAE, Athro Dadansoddi Polisïau Cymharol ym Mhrifysgol Fienna a Chadeirydd y Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd
  • Nils-Eric Sahlin MAE, Athro a Chadeirydd Moeseg Feddygol ym Mhrifysgol Lund ac Is-Gadeirydd y Grŵp Ewropeaidd ar Foeseg mewn Gwyddoniaeth a Thechnolegau Newydd
  • Cathrine Holst, Athro Athroniaeth Gwyddoniaeth a Democratiaeth ym Mhrifysgol Oslo
  • Dr. Mario Scharfbillig, Uned Gwyddoniaeth er Democratiaeth a Llunio Polisïau ar Sail Tystiolaeth, Canolfan Ymchwil ar y Cyd, y Comisiwn Ewropeaidd

Bydd y gweminar yn cael ei gadeirio gan yr Athro Ole Petersen MAE, Cyfarwyddwr Academaidd Academia Europaea Canolfan Wybodaeth Caerdydd

Rhannwch y digwyddiad hwn