Ewch i’r prif gynnwys

Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Oes Ddigidol

Dydd Mercher, 12 Mehefin 2024
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Holding up phones and laptops

Yn union fel y cenedlaethau iau, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (GGCD) yn sefydliad “digidol brodorol”. Wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig, nid yw'r GGCD yn cael ei gyfyngu gan gyfyngiadau traddodiadol gweithio yn y swyddfa na chydleoli staff. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i’r sefydliad arloesi a gweithredu’n wahanol, hyd yn oed yn ei ddull o recriwtio arweinwyr. Yn y Sesiwn dros Frecwast hwn, bydd Harriet Green a Myra Hunt, a ymunodd â’r GGCD fel Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol ym mis Ionawr 2022, yn ymuno â ni i rannu eu gweledigaeth i ddyrchafu gweithio mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar greu “gwasanaethau cyhoeddus digidol enghreifftiol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr” dros Gymru. Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio eu hymagwedd strategol a gweithrediad ymarferol y weledigaeth hon.

Ymhellach i hyn, bydd Dr Angharad Watson, rheolwr Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd, yn rhoi cyflwyniad i’w sefydliad sydd newydd ei lansio sydd â’r nod o fod yn ddrws ffrynt i sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i annog arloesi cyfrifol ac effaith gymdeithasol drwy drawsnewid digidol. Bydd yn tynnu sylw at astudiaeth achos ddiweddar lle bu National Highways yn gweithio gyda’r Sefydliad i greu fframwaith moeseg data, cymaint yw pwysigrwydd data cwsmeriaid wrth ddarparu seilwaith trafnidiaeth. I gloi, bydd yn siarad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau lleol drwy Hyb Caerdydd Canolfan Hartree, sy’n darparu cyfleoedd risg isel i fusnesau bach a chanolig yn y rhanbarth, ddod yn arweinwyr digidol drwy ddefnyddio AI a gwyddor data.

Gweld Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Oes Ddigidol ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education