Digwyddiad Lansio: Canolfan Hanes Cymru Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![A map of Wales printed in 1573](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2816433/Humphrey-Llwyd,-Cambriae-Typus-1573-2024-5-23-15-29-49.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Pleser yw cyhoeddi lansiad Canolfan Hanes Cymru Caerdydd, canolfan newydd wedi ei lleoli yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Bydd digwyddiad lansio yn cael ei gynnal yn adeilad John Percival (Campws Cathays) ar ddydd Gwener 28 Mehefin. Mae’r Ganolfan yn awyddus i ddod ag ysgolheigion o bob rhan o’r brifysgol sydd â diddordeb ymchwil a/neu addysgu yn hanes Cymru ynghyd, yn academyddion ac yn fyfyrwyr ôl-radd.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau byr ar ymchwil gyfredol yr Ysgol, ond rydym yn awyddus hefyd i glywed mwy am yr arbenigedd yn y maes mewn rhannau eraill o’r brifysgol ac i feithrin deialog trwy’r Ganolfan. I hwyluso’r cyfnewid hwn, yr ydym yn awyddus i glywed gan gydweithwyr tu allan i’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd fydd yn hapus i roi cyflwyniad byr (tua 5 munud) ar feysydd eu harbenigedd. Os hoffech glywed mwy am ymchwil gyfredol ym maes hanes Cymru, mae croeso cynnes i chi fynychu.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma, ac os oes gennych ddiddordeb mewn darparu sgwrs byr am eich arbenigedd, anfonwch e-bost at BowenL@cardiff.ac.uk
Dr Lloyd Bowen, Dr Stephanie Ward, Dr Rebecca Thomas (SHARE)
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU