Ewch i’r prif gynnwys

Cyngres y Rhwydwaith Academyddion Peirianneg EAN 2024: Peirianwyr y Dyfodol

Calendar Dydd Sul 9 Mehefin 2024, 13:00-Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024, 14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Engineers for the Future

Digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Gyngor yr Athrawon Peirianneg, ac Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys rhestr lawn a thrawiadol o siaradwyr, sesiynau a phaneli i’ch ysbrydoli a’ch addysgu chi.

Ymhlith y siaradwyr arbenigol blaenllaw sy’n traddodi eleni bydd Dr Nike Folayan MBE (sylfaenydd y Gymdeithas Peirianwyr o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig), Mary Curnock Cook CBE (Sefydliad Dyson), Yr Athro John Chudley (Cadeirydd, y Cyngor Peirianneg), Yr Athro Amanda Kirby (arbenigwr ym maes niwroamrywiaeth), Kate Bellingham (Cyflwynydd Tomorrow’s World yn flaenorol, academydd a hyrwyddwr STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a llawer mwy.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol ar gael, gan gynnwys Cinio Blynyddol y Gyngres yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a gweithgareddau cymdeithasol megis Kate Bellingham yn cyflwyno ar ôl cinio, a thaith gerdded o gwmpas Morglawdd Caerdydd.

Ar noswaith y Gyngres, bydd Dr Mark Drakeford AS yn traddodi darlith gyhoeddus ar ei weledigaeth o ‘Greu Dyfodol Gwell’. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y ddarlith. 

Gweld Cyngres y Rhwydwaith Academyddion Peirianneg EAN 2024: Peirianwyr y Dyfodol ar Google Maps
Gweler gwefan y gynhadledd am fanylion
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB

Rhannwch y digwyddiad hwn