Cymru ac Etholiadau Senedd Ewrop 2024
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gyda’r arolygon barn yn awgrymu cynnydd yn y gefnogaeth i bleidiau asgell dde, byddwn yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu i wahanol agendâu Ewropeaidd fel y Fargen Werdd Ewropeaidd ac Ewrop Gymdeithasol – a’r goblygiadau canlyniadol i gymdogion a phartneriaid yr UE. Trefnir y digwyddiad hwn ar y cyd gan y Ganolfan Gwybodaeth Ewropeaidd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.
Bydd y panel yn cael ei gymedroli gan Frederico Rocha, Llyfrgellydd Gwybodaeth Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n cynnwys:
- Susanne Oberhauser (Cyfarwyddwr, Swyddfa Gyswllt Senedd Ewrop, Dirprwyaeth yr UE yn y DU)
- Derek Vaughan (Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop)
- Dr Rachel Minto (Uwch Ddarlithydd Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd)
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 29 Mai 2024 o 17:30 tan 19:00 yn Ystafelloedd Pwyllgorau Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd. Bydd y drysau'n agor am 17:00 pan fydd lluniaeth ar gael.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA