Y byd academaidd a byd diwydiant yn dod at ei gilydd: Meithrin ffyrdd o arloesi
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
MediWales ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd - Digwyddiad Ymgysylltu â Byd Diwydiant y Tîm Arloesi
Gall y byd academaidd a byd diwydiant gynnig safbwyntiau, cyfleoedd a sgiliau unigryw i’w gilydd. Weithiau, bydd cyfuno arbenigedd gwyddonol a masnachol yn cyflymu’r broses o ddatblygu cynnyrch, effeithlonrwydd byd diwydiant ac atebion newydd. Ond sut y mae partneriaethau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant yn dechrau, yn datblygu ac yn llwyddo?
Amcan y digwyddiad yw chwalu’r hud ynglŷn â’r cymhlethdodau ynghlwm wrth gydweithio rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd.
Gan ddefnyddio prif siaradwyr a thrafodaeth banel, byddwn ni’n cyflwyno prosiectau cydweithio llwyddiannus, yn tynnu sylw at y canlyniadau go iawn ac yn eich cyfeirio at ffyrdd o gydweithio.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael y cyfle i rwydweithio â phobl eraill a rhannu eu brwdfrydedd dros arloesi ac Ymchwil a Datblygu ym maes technoleg feddygol, biodechnoleg a gofal iechyd.
- Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Mehefin
- Lleoliad: Medicentre Caerdydd, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4UJ
Agenda sylfaenol:
- 09:30 am Te a choffi wrth gyrraedd a’r cyfle i rwydweithio
- 10:00 am Croeso
- 10:10 am Prif siaradwyr
- 11:00 am Egwyl
- 11:15 am Trafodaeth banel yng ngofal MediWales
- 12:00 pm Cinio a rhwydweithio
- 14:00 pm Gorffen
Ymunwch â ni ym Medicentre Caerdydd wrth inni:
- Gyflwyno enghreifftiau llwyddiannus o brosiectau cydweithio rhwng y byd academaidd a byd diwydiant
- Eich cyfeirio at ffyrdd o feithrin perthynas gadarn o gydweithio rhwng y ddau sector
- Trafod y dulliau cywir (ac anghywir) i ddatblygu perthynas gadarn o gydweithio
- Eich annog i rwydweithio a gwneud cysylltiadau newydd
Yn y digwyddiad hwn bydd cyflwyniadau gan y prif siaradwyr, trafodaeth banel yng ngofal MediWales, cinio a rhwydweithio.
Medicentre Caerdydd
Parc y Waun
Caerdydd
CF14 4UJ