Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi yng Nghymru: y sefyllfa o ran cyllid ar gyfer sefydliadau

Dydd Mercher, 22 Mai 2024
Calendar 09:30-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Green plant in pair of hands

Mae'r sefyllfa o ran cyllid yng Nghymru yn un gymysg, gyda chyfuniad o fentrau a rhaglenni cyllido.  

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni o’r enw Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach.  Mae’n cynnwys nodau economaidd, er enghraifft ‘ cynyddu nifer, effaith, amrywiaeth ac uchelgeisiau’r busnesau sy’n arloesi’n weithredol yng Nghymru’ a ‘Chynyddu swm y buddsoddiad mewn gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi ym mhob sector, gan sicrhau cyfran ranbarthol deg sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau a’r cryfderau yng Nghymru'.  

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi a chyllid ar gael i gefnogi sefydliadau. 

Mae’r dasg o ymchwilio i gyllid ac ymgeisio am grantiau yn cymryd amser. Gall gwybod pa gyllid sydd orau ar gyfer eich sefydliad fod yn dalcen caled hefyd. Mae hyn oll yn cymryd amser ac adnoddau, sef pethau nad oes gan y rhan fwyaf o fusnesau. 

Rydyn ni’n deall hyn, ac yn awyddus i geisio cyflymu'r broses ymchwil ar eich cyfer.

Ar 22 Mai, byddwn ni’n cynnal gweithdy Gwybodaeth am Gyllid Arloesedd, a’i nod fydd helpu sefydliadau i ymgyfarwyddo â'r mentrau cyllido sydd ar gael.

Yn y sesiwn hon bydd cyfres o gyflwyniadau, gan gynnwys: 

Arbenigwyr Arloesedd Llywodraeth Cymru 

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth   

Cyllid clyfar 

Ar ben y cyflwyniadau hyn bydd sesiwn drafodaeth grŵp, lle gall sefydliadau ddod ynghyd a thrafod heriau parhaus o ran arloesi, cyllid, neu gael mynediad at bartneriaid i gydweithio â nhw.  

Bydd hefyd egwyliau i alluogi cynrychiolwyr i sgwrsio a rhwydweithio ymhellach. 

Event Space 0.47 / 6.35
sbarc|spark
Maindy Road
Cardiff
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn