CYD-hadledd arbennig ar Gydraddoldeb: Perthyn mewn mathemateg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ein siaradwr ar yr achlysur hwn fydd Dr. Padi Fuster Aguilera, o Brifysgol Colorado Boulder (Unol Daleithiau America).
Mae nifer o fathemategwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn sôn eu bod yn aml yn ei chael hi’n anodd uniaethu â mathemategwyr eraill ar adeg gynnar yn eu gyrfâu, a hynny oherwydd diffyg gwelededd mathemategwyr eraill sy’n rhannu eu hunaniaeth ddiwylliannol. Gall hyn a ffactorau eraill sy'n chwarae rôl wrth lunio hunaniaeth mathemategwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gael eu lliniaru drwy roi gwrthfesurau rhagweithiol ar waith. Ymhlith y gwrthfesurau hyn mae creu mannau a chymunedau lle gall myfyrwyr deimlo fel eu bod yn perthyn ac yn cael eu croesawu ym myd mathemateg, a rhoi sylw i gynnwys a lleisiau mwy amrywiol o fewn mathemateg.
Yn y cyflwyniad hwn, bydda’ i’n cyflwyno dau brosiect sydd o ddiddordeb mawr i mi ar y testun ‘perthyn’ ym maes mathemateg: sef y gynhadledd Math For All a chasgliad o gyfweliadau sef Meet a Mathematician. Cynhadledd yw Math For All, a’i nod yw creu amgylchedd croesawgar i unigolion fedru mwynhau a thrafod mathemateg. Casgliad o gyfweliadau fideo â mathemategwyr o grwpiau sydd wedi'u heithrio’n hanesyddol mewn mathemateg yw Meet a Mathematician. Nod y ddau brosiect hyn yw taflu goleuni ar y modelau rôl sydd i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes mathemateg, gan dynnu sylw ar yr un pryd at eu hunaniaethau eraill a’u gyrfâu.
Estynnir croeso i bawb yn yr Ysgol i’r digwyddiad hwn. Gan edrych ymlaen at weld llawer ohonoch chi yno!
Ar-lein: https://cardiff.zoom.us/j/89079481031?pwd=NVRqZCs2Y0xSRGRKYmpPTFc5Wkszdz09
Rhif adnabod y cyfarfod: 890 7948 1031
Cyfrinair: 657551
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG