Bywyd fel busnes bach yng Nghymru yn 2024
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hwn, bydd Rob Basini o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Jo Roberts o Fabulous Welshcakes a Vicky Mann o Near Me Now ac app canol trefi VZTA, yn ymuno â ni i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau bach yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn dilyn y pandemig, mae busnesau wedi dioddef effeithiau hirdymor cyfnodau cloi, argyfwng costau byw sydd wedi effeithio ar gwsmeriaid, argyfwng costau busnes, cynnydd costau ynni, cynnydd mewn cyfraddau llog a chwyddiant, a heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff. Mae effeithiau Prydain yn gadael yr UE yn parhau i effeithio ar lawer o fusnesau mewn sawl ffordd. Wrth i fusnesau geisio ail-adeiladu ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod mor anodd i gynifer, byddwn hefyd yn edrych yn ystod y sesiwn hon i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i fusnesau bach dyfu.
Bydd Rob Basini yn rhoi trosolwg o realiti bywyd busnes i fusnesau bach yng Nghymru, a bydd yn cyffwrdd â rhai dangosyddion allweddol, gan gynnwys y rôl y mae angen i lywodraethau ei chwarae, pwysigrwydd cymorth busnes, Addysg Uwch ac Addysg Bellach wrth ddatblygu sgiliau a gweithlu galluog, ac elw wrth ganiatáu i fusnesau barhau â’u teithiau tuag at sero net.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU